Sefydlwyd Menter Môn yn 1995 gyda’r prif amcan o wneud y mwyaf o’r amrywiol adnoddau sydd gennym. Sefydlwyd Menter Iaith Môn yn rhan o’r asiantaeth fenter yn 1997 yn dilyn cais llwyddiannus i Fwrdd yr Iaith Gymraeg. 27 mlynedd yn ddiweddarach mae Menter Iaith Môn yn darparu trawstoriad o ddarpariaethau a gweithgareddau sy’n cefnogi ymdrechion i gynnal y Gymraeg yn lleol, ac yn darparu cyfleoedd i breswylwyr yr Ynys ddefnyddio’u Cymraeg.
Cyflawnir y gwaith gan 5 aelod o staff. Yn ogystal cefnogir ein gwaith gan wirfoddolwyr. Mae ein prif swyddfa wedi ei lleoli yn Neuadd y Dref, Llangefni ond mae nifer o’n gweithrgareddau yn cael eu cynnal yn ein cymunedau.
Rydym ni’n rhan o rwydwaith cenedlaethol Mentrau Iaith Cymru ble ceir cefnogaeth a hyfforddiant gyson er mwyn datblygu sgiliau, dylanwadu yn genedlaethol a chefnogi ymdrechion Gymru benbaladr i roi statws i’r Gymraeg.