Lansio OgiOgi ar gyfer rhieni hAPus

Bydd ap dwyieithog, cyntaf o’i fath, ar gyfer rhieni a phlant ifanc yn cael ei lansio ym mharc gwyddoniaeth M-SParc ar ddydd Llun, 7 Mawrth 2022.

Mae ap OgiOgi yn drysorfa o wybodaeth sy’n cynnig dros 400 o ddolenni defnyddiol at adnoddau lleol a chenedlaethol – yn cynnwys gwybodaeth am feichiogrwydd, iechyd, gwasanaethau, hawliau, lles, a chyfleoedd hamdden. Yn ogystal, mae’n cynnwys adran ar ddatblygiad plant ac arweiniad ar fanteision dwyieithrwydd a defnyddio’r Gymraeg o’r crud. Mae yno hefyd ddigonedd o weithgareddau hwyliog i blant a rhieni fwynhau.

Cafodd yr ap ei ddatblygu’n wreiddiol er mwyn diwallu anghenion teuluoedd Môn. Ond, mae diddordeb yn OgiOgi yn rhannau eraill o Gymru ac mae adborth hyd yma’n awgrymu y gall fod potensial i ehangu’r cysyniad yn genedlaethol.

Cydlynwyd y gwaith o ddatblygu OgiOgi gan Menter Iaith Môn, ac mae’r ap yn elwa o arbenigedd partneriaeth o ymarferwyr sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda rhieni lleol. Maent yn cynnwys ymwelwyr iechyd a bydwragedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cymraeg i Blant, Mudiad Meithrin, Dechrau’n Deg, a ‘Teulu Môn’ Cyngor Sir Ynys Môn. Treuliodd y bartneriaeth flwyddyn yn casglu tystiolaeth ac yn mapio’r bwlch gwybodaeth cyn dod i’r casgliad mai creu ap oedd y ffordd fwyaf dylanwadol a chost effeithiol o ateb y galw am wybodaeth fwy hygyrch i rieni.

Yn allweddol i lwyddiant yr uchelgais i arloesi a datblygu’r ap oedd buddsoddiad gan Gyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru.

Esboniodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi, sydd hefyd yn aelod portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol, “Adborth gan rieni ac ymarferwyr yn y maes teuluoedd, arweiniodd at ddatblygu ap OgiOgi fel adnodd gwybodaeth hwylus i rieni prysur. Mae’r ap yn cynnig gwybodaeth am wasanaethau iechyd a lles lleol, arweiniad ar ddatblygiad plant, dwyieithrwydd, manteision trosglwyddo’r Gymraeg yn y cartref ac adnoddau i gefnogi rhieni di-Gymraeg i gyflwyno’r iaith i’w babi mewn ffordd hwyliog.”

Mae’r ap yn rhyngweithiol a gellir ei bersonoli gyda botwm ffefrynnau, calendr digwyddiadau lleol, a chyfle i fesur hyder defnyddwyr yn y Gymraeg. Yn ogystal â bod yn arwyddbost gwybodaeth hanfodol i rieni, bydd yr ap yn cynnig: cyfres o glipiau holi ag ateb yr Athro Enlli Thomas, 15 rhestr chwarae cerddoriaeth, cyfres o ganeuon arbennig OgiOgi i’r babi ac i’r teulu,  cyfres o 12 symudiad ioga Selog, 12 stori Magi Ann, 16 fideo Symud gyda Tedi, rhigymau chwarae, cyflwyniad i ddarllen llyfrau Cymraeg a 28 o fideos canu Selog. Bydd rhai o’r adnoddau yma’n ymddangos fel diweddariadau yn ystod y flwyddyn.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS: “Rwy’n llongyfarch y bartneriaeth ym Môn am arloesi a chreu ap OgiOgi. Mae’r ap yn gyfle i ymfalchïo yn arbenigedd Prifysgol Bangor ym maes dwyieithrwydd, a dyfeisgarwch technolegol M-SParc. Rwy’n edrych ymlaen yn arbennig at glywed sut mae’r ap wedi helpu i gynyddu hyder yn y Gymraeg.”

Mae Jamie Hughes o Falltraeth, tad i Seb (3) a Nico (5 mis) wedi bod wrthi’n profi’r ap. Dywedodd: “Mae’r ap yn un handi iawn i gael popeth mewn un lle ar fy ffôn. Dwi’n hoffi’r playlist ymlacio, y linc i wybodaeth am ddatblygiad plant a gwasanaethau iechyd lleol a manylion grwpiau rhiant a phlentyn. Mae’r adran hwyl gyda chanu a stori yn grêt i’w ddefnyddio adref ac yn helpu i godi fy hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg gyda’r plant.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Ieuan Williams, aelod portffolio’r Gymraeg y Cyngor: “Mae’n wych bod gennym yr arloesedd a’r arbenigedd yma ym Môn i gynhyrchu’r ap dwyieithog cyntaf o’i fath drwy’r wlad. Rwy’n ffyddiog y bydd rhieni drwy Gymru yn elwa o adnoddau OgiOgi a diolch i Fforwm Iaith Ynys Môn ac aelodau’r bartneriaeth prosiect am hynny.”

Diwedd

Am wybodaeth bellach: Gethin Jones, Uned Gyfathrebu (01248) 752128

Nodiadau i olygyddion:

  • Aelodaeth partneriaeth prosiect ap OgiOgi yw: Cyngor Sir Ynys Môn, Menter Iaith Môn, Cymraeg i Blant, Mudiad Meithrin, Dechrau’n Deg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Llywodraeth Cymru, Môn Actif, Medrwn Môn, a Dysgu Cymraeg. Mae’n un o nifer o brosiectau cydweithredol a drefnwyd dan anogaeth Fforwm Iaith Ynys Môn. Fforwm trafod a chydweithio i dros 20 o sefydliadau’r sector gyhoeddus, gwirfoddol a phreifat ym Môn, dan gadeiryddiaeth annibynnol Dr Haydn Edwards yw Fforwm Iaith Ynys Môn.
  • Datblygwyd yr ap yn M-SParc gan dîm creadigol dan arweiniad Brandified Ltd.
  • I drefnu cyfweliadau â rhieni neu aelodau partneriaeth y prosiect cysyllter â:

Ffreuer Owen, Rheolwr Polisi a’r Gymraeg, Cyngor Sir Ynys Môn

(ffreuerowen@ynysmon.gov.uk); neu

Elen Hughes, Prif Swyddog, Menter Iaith Môn

(elen@mentermon.com / 07539970368)

  • Lluniau rhagflaen i’w rhannu gyda’r datganiad.