Disgyblion yn dathlu cerddoriaeth Gymraeg
Bydd degau o ddisgyblion o ysgolion uwchradd yng Ngwynedd a Môn yn dod ynghyd i ddathlu Dydd Miwsig Cymru. Mae Llwyddo’n Lleol 2050 ar y cyd gyda Menter Iaith Môn yn trefnu diwrnod o ddathliadau yng Ngaleri, Caernarfon ar y 3ydd o Chwefror wrth edrych ymlaen at y diwrnod ei hun.
Fel rhan o’r diwrnod bydd cyfle i’r disgyblion gymryd rhan mewn sesiwn cwestiwn ac ateb gyda phanel o artistiaid blaenllaw o fewn y sin gerddoriaeth yng Nghymru yn ogystal â chael cyd-weithio gyda’r artistiaid yma er mwyn cyfansoddi cerddoriaeth eu hunain.
Nododd Jade Owen, Swyddog Prosiect Llwyddo’n Lleol 2050, “Y prif reswm i ni benderfynu cynnal diwrnod fel hyn oedd er mwyn gallu cynnig rhywbeth newydd i bobl ifanc yr ardal sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth. Mi yda ni’n ymwybodol iawn o’r talent sydd o’n hamgylch ni ac yn awyddus i fagu potensial y talent yma er mwyn rhoi sail gadarn iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.
‘Da ni hefyd yn awyddus iawn i chwalu unrhyw stigma sydd gan bobl ifanc yr ardal bod yn rhaid symud i ffwrdd i ddinasoedd fel Llundain a Chaerdydd os ydyn nhw am fod yn llwyddiannus o fewn y maes. Wrth roi’r cyfle i’r bobl ifanc yma fod yn rhwydweithio efo artistiaid sydd yn llwyddiannus o fewn y sin yng Ngogledd Cymru, ‘da ni’n gobeithio y bydd hyn yn eu hysbrydoli nhw.”
Marged Gwenllian, Osian Cai, Endaf a Tesni Hughes ydi’r artistiaid fydd yn cynnal y diwrnod efo’r bobl ifanc. Mae’r pedwar yma yn dod ag arbenigedd a diddordeb o wahanol elfennau o’r sin; boed hyn yn recordio cerddoriaeth, chwarae mewn band neu’n perfformio fel DJ.
Mae Elen Hughes, Prif Swyddog Menter Iaith Môn yn falch iawn o allu cefnogi diwrnod o’i fath: “Mae Mentrau Iaith ar hyd a lled y wlad yn cynnal digwyddiadau i ddathlu Dydd Miwsig Cymru ac mi yda ni’n falch o allu cefnogi’r digwyddiad yma fel Menter Iaith yn Ynys Môn. Fel Menter sydd yn trefnu digwyddiadau o amgylch cerddoriaeth yn aml, boed hyn yn wyliau fel Gŵyl Cefni neu’n sesiynau Bocswn gyda phobl ifanc yr ardal, mi yda ni’n ymwybodol iawn pa mor fanteisiol ydi cerddoriaeth wrth ddod a phobl at ei gilydd i gymdeithasu yn Gymraeg.
Yn ychwanegol i’r diwrnod yma sydd yn digwydd i ddisgyblion Uwchradd, mi yda ni hefyd yn trefnu disgos i’r cynradd fydd yn digwydd yn ystod wythnos Dydd Miwsig Cymru. Ein gobaith wrth drefnu digwyddiadau fel hyn ydi ein bod ni’n magu diddordeb ein plant a phobl ifanc ac yn gallu cynnig gwahanol brofiadau cerddorol trwy’r Gymraeg iddyn nhw.”
Mae’r Fenter Iaith yn cynnal sesiynau Bocswn a Rhwydwaith Perfformwyr Ifanc yn gyson a wastad yn awyddus i dderbyn mwy o wirfoddolwyr wrth drefnu Gŵyl Cefni, felly mae’r cyfleoedd i’n pobl ifanc ni o fewn y maes cerddoriaeth yn ddi-ddiwedd. Am fwy o wybodaeth am y sesiynau sydd gan y Fenter Iaith i’w cynnig, cysyllta â iaith@mentermon.com.
Cyllidwyd Llwyddo’n Lleol 2050 drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.
Sylwadau Diweddaraf