Ein Gwaith
Mae gwaith Mentrau Iaith Cymru yn eang ac yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn yn dibynnu ar gyfleoedd ac anghenion y Mentrau Iaith, a datblygiadau o ran y Gymraeg.
Credwn ei bod yn bwysig cynnal gweithgareddau, digwyddiadau a gwasanaethau i bawb o bob oed ac o wahanol gefndiroedd er mwyn dangos – a’u hargyhoeddi, fod byw bywyd Cymraeg ym Môn ac yng Nghymru yn gyffrous ac yn llawn hwyl. Credwn hefyd fod y Gymraeg â swyddogaeth bwysig i’w chwarae er mwyn adfywio, dehongli a chynnal economi leol, gan sicrhau dyfodol llewyrchus i gymunedau’r Ynys.
Rydym ni am weithio yn yr ardaloedd hynny sydd â niferoedd uchel o siaradwyr Cymraeg er mwyn sichrau fod yr ardaloedd hyn sydd o bwys strategol i’r Gymraeg yn parhau, ac yn cynyddu. Yr un mor bwysig yw gweithio yn yr ardaloedd sydd â niferoedd îs o siaradwyr Cymraeg, gan wneud y Gymraeg yn rhan bwysig, a gwerthfawr o fywyd bob dydd.
Ein Gwaith
-
Brwydr y Bandiau
Mwy »Brwydr y Bandiau
Mae Mentrau Iaith Cymru yn cydweithio’n agos â BBC Radio Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn i drefnu Cystadleuaeth Brwydr y Bandiau.
Bwriad y gystadleuaeth yw rhoi llwyfan i ddoniau ifanc sy’n awyddus i dorri i mewn i’r Sîn Gymraeg, ac mae’r cynllun yn cynnig pob math o brofiadau go iawn i’r cystadleuwyr, er mwyn iddyn nhw gael blas ar nifer o agweddau o’r Sîn.
-
Ymgyrch Pethau Bychain
Mwy »Ymgyrch Pethau Bychain
“Pethau Bychain” yw ymgyrch Cymraeg diweddaraf llywodraeth Cymru. Mae’r ymgyrch yn cael ei ysbrydoli gan ymadrodd enwog ein nawddsant, Dewi Sant, “Gwnewch y pethau bychain”.
Nod yr ymgyrch yw annog pobl ar draws y wlad i rannu awgrymiadau ar sut y gallwn ni gyd wneud newidiadau bach i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg bob dydd.
Cliciwch fan hyn am fwy o wybodaeth.
-
Ymgyrch #Joia
Mwy »Ymgyrch #Joia
Ein hymgyrch farchnata ddiweddraf yw #joia. Bwriad yr ymgyrch yw annog mwy o bobl, hen ac ifanc, i ddatgan eu bod yn mwynhau byw a hynny’n Gymraeg.
Annogir unigolion i dynnu hunluniau gyda’r hashfyrddau a’u huwchlwytho i Facebook a Twitter gan ddefnyddio’r hashnodau #joia gyda’u negeseuon.