Our Work

Credwn ei bod yn bwysig cynnal gweithgareddau, digwyddiadau a gwasanaethau i bawb o bob oed ac o wahanol gefndiroedd er mwyn dangos – a’u hargyhoeddi, fod byw bywyd Cymraeg ym Môn ac yng Nghymru yn gyffrous ac yn llawn hwyl. Credwn hefyd fod y Gymraeg â swyddogaeth bwysig i’w chwarae er mwyn adfywio, dehongli a chynnal economi leol, gan sicrhau dyfodol llewyrchus i gymunedau’r Ynys. Rydym ni am weithio yn yr ardaloedd hynny sydd â niferoedd uchel o siaradwyr Cymraeg er mwyn sichrau fod yr ardaloedd hyn sydd o bwys strategol i’r Gymraeg yn parhau, ac yn cynyddu. Yr un mor bwysig yw gweithio yn yr ardaloedd sydd â niferoedd îs o siaradwyr Cymraeg, gan wneud y Gymraeg yn rhan bwysig, a gwerthfawr o fywyd bob dydd.