Croeso, Elen!

Dyma gyflwyno, Elen Hughes! 🌟🌟🌟
Roedd hi’n ddiwrnod cyffrous arall yn y Fenter heddiw wrth i ni groesawu Elen, aelod o staff newydd yn rhan o’r tîm.
Mi fydd Elen, sydd wedi derbyn gradd Dosbarth Cyntaf o Prifysgol Bangor yn 2018 mewn Cymraeg a Chymdeithaseg ac wedi ers hynny, gweithio i gwmni Cwt Tatws (sy’n enghraifft delfrydol o ddefnyddio’r Gymraeg mewn busnes!), yn gweithio ar brosiectCymraeg byd busnes: Welsh in business. Yn wreiddiol o Ben Llŷn, mi fydd Elen a’i egni heintus yn gweithio dros y ddwy sir, Gwynedd a Môn i gynnig cymorth i chi.
Dyma oedd ganddi i’w ddweud:
“Helo! Elen ydw i, a heddiw yw fy niwrnod cyntaf fel Swyddog Cymraeg Byd Busnes, Môn a Gwynedd!
Wedi graddio ers blwyddyn o Brifysgol Bangor, mi ydw i’n fwy na parod i ddechrau’r swydd, ac i ddechrau cyfrannu at y gwaith arbennig sy’n cael ei wneud yma.
Fel swyddog, mi alla i gynnig gwasanaeth cyfieithu am ddim, darparu nwyddau dwyieithog, dangos sut i recriwtio siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, cynnig cefnogaeth ar sut i farchnata a hyrwyddo’r busnes ymysg siaradwyr yr iaith, a llawer iawn mwy!
Manteisiwch arna i! Does ganddoch chi ddim byd i’w golli!
Mae busnesau yn rhan ganolog o’n cymunedau, ac rwy’n edrych ymlaen i gydweithio gyda chi!” 🌟🌟
Manylion cyswllt Elen:
📞 01248 725700
📩 elen.hughes@cymraegbusnes.