Mae Theatr Ieuenctid Môn yn ôl am dymor arall!
Ers sawl blwyddyn mae Theatr Ieuenctid Môn wedi llwyddo i ennyn a chydio diddordeb plant a phobl ifanc Ynys Môn ym mhob agwedd o’r theatr. O weithdai wythnosol, i gynyrchiadau gwreiddiol, dyma gyfle unigryw i weithio’n agos ag actorion proffesiynol a phrofiadol i feithrin a datblygu sgiliau newydd ac i gyrraedd eich llawn botensial.
Eleni mi fydden ni’n gweithio ar brosiect penodol o’r enw ‘Lleisiau’ gyda chriw o bobl ifanc. Bwriad ‘Lleisiau’ yw darganfod llais y person ifanc heddiw. Dywed yn aml fod cymdeithas yn tawelu llais person ifanc, ddim yn rhoi rhyddid i berson ifanc drafod eu teimladau tuag at bynciau llosg gan eu bod nhw rhy ifanc i ddeall, neu yn rhy anaeddfed i ddelio â materion pwysig. Yn bennaf trafodir iaith, hunaniaeth, ein cymuned a’r gymdeithas a materon dyngarol. Ein nod yw creu darnau o waith theatr, sioe lwyfan traddodiadol ac ambell i ddarn theatr promenâd ar sail yr hyn sy’n cael ei drafod yn y sesiynau.
Mae’r gweithdai yn rhoi cyfle i’n haelodau fynegi eu hunain mewn awyrgylch diragfarn mewn modd hamddenol a chyfeillgar. Bydd y bobl ifanc yn cael cyfle i sgriptio, creu, cyfarwyddo, a pherfformio darnau gwreiddiol o theatr er mwyn datgan eu teimladau drwy gyfrwng drama.
Cyfle arbennig i ddatblygu sgiliau a chyfarfod ffrindiau newydd! Croeso i wynebau newydd!
Tiwtoriaid ‘Lleisiau’: Gwion Aled a Gwen Elin
Mae TIM Mawr yn cyfarfod bob nos Fercher rhwng 6 a 7:30pm yn Neuadd y Dref, Llangefni.
Rhagor o fanylion: nia@mentermon.com // 01248 725700