Ein nod wrth weithio yn y maes hwn yw cynyddu’r ddarpariaeth o weithgareddau cymdeithasol o ansawdd uchel i bobl ifanc a dylanwadu ar eu dealltwriaeth a’u hymwybyddiaeth o werth yr iaith.
- Theatr Ieuenctid Môn – Gweithdai wythnosol o dan arweiniad tiwtoriaid drama proffesiynol. Mae TIM Bach ar gyfer plant 7-11 oed a TIM Mawr ar gyfer pobl ifanc 11-18oed.
- Bocsŵn a Rhwydwaith Perfformwyr Ifanc – Prosiect creu cerddoriaeth o dan arweinaiad tiwtoriaid proffesiynol. Cyfle i blant a phobl ifanc chwarae offerynnau a defnyddio peiriannau iMAC i gyfansoddi a chreu eu cerddoriaeth eu hunain. Mae’r Rhwydwaith yn rhoi cyfle i bobl ifanc drefnu a chynnal eu gigs eu hunain yn lleol a pherfformio mewn gwyliau amrywiol. Dyma brosiect sydd yn hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg newydd yn lleol gan roi profiadau trefnu arbenigol i’r bobl ifanc.
- Ymwybyddiaeth Iaith – Cyflwyniadau bywiog a mynegiannol ble annogir pobl ifanc o dan arweiniad staff y fenter i fynegi eu barn am y Gymraeg ynghyd â dysgu am fanteision y Gymraeg ym myd gwaith ac yn gymdeithasol.
- WiciMôn – Prosiect sydd yn cyfoethogi a phoblogeiddio’r fersiwn Cymraeg o Wicipedia.