Creu cerddoriaeth a rhoi cyfleon newydd i bobl ifanc Ynys Môn.
Darpariaeth am ddim i blant a phobl ifanc Ynys Môn. Cyfleoedd i ddysgu chwarae offerynnau band, cyfansoddi caneuon newydd, recordio a chael hwyl!
Sesiynau cymunedol ymhob rhan o Ynys Môn. Mae’r Rhwydwaith yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ffurfio bandiau newydd a pherfformio mewn gigs. Mae aelodau’r Rhwydwaith yn gyfrifol am drefnu eu gigs eu hunain gyda chefnogaeth ein tiwtoriaid ac yn dysgu sgiliau newydd marchnata, hyrwyddo, sain a goleuo yn rhan o’r cynllun.
Isio help i diwnio’r gitâr a’r Ukelele? Dilyn y dolenni hyn.
Tiwnar gitar.
Tiwnar Ukulele.