Sefydlwyd ‘Rhwydwaith Perfformwyr Ifanc’ i feithrin a datblygu talent ifanc Ynys Môn, a hynny yn dilyn ymateb i geisiadau gan fandiau ifanc lleol am lwyfan i berfformio.
Aethpwyd â’r syniad gam ymhellach a sefydlu’r Rhwydwaith fel fod modd sefydlu, meithrin a chefnogi bandiau ifanc oedd am gychwyn ar eu taith berfformio. Gyda’n cysylltiadau yn y byd cerddorol rydym ni’n tynnu arbenigwyr i mewn i roi hyfforddiant benodol, yn cydweithio â phrif ŵyliau Ynys Môn gan gynnwys Gwyl Cefni a’r Wyl Gopr ac hefyd gyda prif lwyfannwyr digwyddiadau cerddorol cenedlaethol, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol/ MaesB.
Mae’r prosiect yn rhoi cyfle hir dymor i bobl ifanc sefydlu bandiau, cyfansoddi, recordio a chynnal gigs eu hunain. Gyda’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder hwn gall ein buddiolwyr ni mewn amser gynnal eu digwyddiadau eu huanin, defnyddio eu cysylltiadau newydd a chyfrannu at sîn gerddoriaeth Gymraeg ar Ynys Môn yn effeithiol.
Cynhelir sesiynau’r Rhwydwaith o dan arweiniad tiwtoriaid proffesiynol sydd â phrofiad mewn sawl maes gan gynnwys dylunio, recordio, perfformio a llwyfannu. Cynhelir y sesiynau yn wythnosol yn ein stiwdio recordio a gofod ymarfer, Stiwdio 12 yn Llangefni, ynghyd â lleoliadau cymunedol eraill ar yr Ynys.
Gall bandiau sydd wedi eu sefydlu ddod at y Rhwydwaith hefyd i fanteisio ar y gefnogaeth. Rydym ni am barhau i sefydlu darpariaeth eang o fandiau Cymraeg, ac hefyd sicrhau fod gan ein buddiolwyr ystod o sgiliau all eu cefnogi i gynnal digwyddiadau.
Does dim rhaid i chi fod â diddordeb mewn cerddoriaeth yn unig chwaith – mae addurno ystafell, marchnata, tynnu lluniau, sain a goleuo i gyd yn rhan bwysig o’r digwyddiad!
Darperir felly hyfforddiant mewn gwahanol elfennau o gynnal gig gan gynnwys addurno ystafell, dylunio posteri a marchnata.
Yn 2015 cynhaliwyd gigs gan y bandiau newydd, gyda Carma yn un o lwyddiannau’r Rhwydaith eleni. Cynhaliwyd 3 gig yn Ysgolion Uwchradd Ynys Môn dros y Nadolig. Cynhaliwyd gig fawr yn mis Mawrth gyda bandiau’r ‘Rhwydwaith’ (Madarch, Carma ac Mr Annwyl) yn perfformio gyda Candelas.
Eleni mae Carma wedi mynd ymlaen i berfformio yn Sioe Môn, Gwyl Cefni a Gwyl Gopr Amlwch. Yn ogystal a bod yn ran o brosiect ar y cyd rhwng Bocsŵn a Maes B.
Mae’r gwaith da wedi parhau mewn i 2016 wrth i fand newydd o’r enw A(n)naearol sefydlu. Ac yn barod mae’r aelodau wedi derbyn sylw gan Super Furry Animals gyda eu cân ‘Cysawd Yr Haul’a cafodd ei gynnwys yn podcast SFA i gwefan Pitchfork.com
Os rydych chi am ddechrau, newydd sefydu neu angen cymorth cymeryd y cam nesaf fel band, felly cysylltwch â tîm Bocsŵn am ragor o fanylion.
01248751398 / 0771736790