Croeso i Theatr Ieuenctid Môn!
Mae theatr yn gallu ein cludo ni i unrhyw le, gan ddod â chymeriadau a llefydd yn fyw gyda geiriau a dychymyg. Mae Theatr Ieuenctid Môn wedi annog ac wedi cefnogi plant a phobl ifanc Ynys Môn mewn sawl agwedd o fyd y theatr ers ei sefydlu yn 2000. Mae ein gweithdai wythnosol yn cael eu harwain gan diwtoriaid profiadol, a dros y blynyddoedd mae cannoedd o aelodau wedi manteisio ar y cyfle unigryw hwn i ddatblygu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau.
Mae ein strwythur presennol yn galluogi ein haelodau i brofi sawl peth gwahanol, o sesiynau wythnosol cyson, i ddosbarthiadau a gweithdai arbenigol, ac ymhellach i brofi cyfleoedd proffesiynol gyda chwmnïau a phrosiectau lleol eraill, gall hyn agor drysau at gyfleoedd castio ar gyfer gwaith teledu, theatr, ffilm a radio. Rydym yn gweithio’n flynyddol tuag at bantomeim Nadolig, ac yn llenwi’r flwyddyn gyda phrofiadau amrywiol yn seiliedig ar ddiddordebau ein haelodau. Ein nod yw cyflwyno llawer o agweddau gwahanol ar y theatr a’r ddrama, gan ddilyn dulliau traddodiadol o greu dramâu yn ogystal â phrosesau cyd-greu mwy dyfeisgar.
Mae ein sesiynau’n cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, a drwy hyn rydym yn darparu cyfleoedd naturiol i’n haelodau i ddefnyddio eu Cymraeg mewn lleoliad anffurfiol a hwyliog. Mae’n hanfodol bod ein haelodau’n gweld y Gymraeg fel iaith sy’n agor drysau iddynt mewn rhan unigryw o’r byd.
Manylion y gweithdai wythnosol TIM Bach (7-11oed):
Mae sesiynau TIM Bach yn cael eu cynnal yn Theatr Fach Llangefni ar nosweithiau Mercher rhwng 6-7:30pm.
Manylion gweithdai wythnosol TIM Mawr (11 – 18 oed):
Mae sesiynau TIM Mawr yn cael eu cynnal yn Theatr Fach Llangefni ar nosweithiau Mawrth rhwng 6:30-8pm.