Teulu

Mae’r gwaith yn y maes hwn yn cynnwys datblygu prosiectau newydd ac arloesol sy’n annog trosglwyddiad o’r Gymraeg o fewn y teulu.
Mae ein gwaith wrth annog trosglwyddo’r Gymraeg yn y teulu yn un o’n meysydd pwysicaf. Mae ystadegau Cyfrifiad 2011 yn dangos i ni fod y gyfradd trosglwyddo ym Môn ar gyfer aelwydydd pâr, lle gallai’r ddau oedolyn siarad Cymraeg, wedi cynyddu o 79% yn 2001 i 80.1% yn 2011, ond mae’r gyfradd ar gyfer aelwydydd pâr, lle gallai un oedolyn siarad Cymraeg wedi lleihau o 49.1% yn 2001 i 47.5% yn 2011.

Rydym yn gweithredu ar draws yr Ynys drwy gynllunio a chynnal gweithgareddau sy’n codi hyder ac yn gwella sgiliau iaith rhieni. Rydym ni’n trefnu ac yn cynnal teithiau a gweithgareddau i deuluoedd o bob cefndir ieithyddol yn ystod y dydd, ar benwythnsau, gyda’r nosau ac yn ystod gwyliau ysgol.

gwylcefni

Selog

 

gwylcefni

Addysg

 

Mae ein prif gynlluniau yn cynnwys:

Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer ein gweithgareddau

  • Mae dy Gymraeg di’n Grêt! – Prosiect anffurfiol dros gyfnod o 6 wythnos sy’n rhoi cyfleoedd ymarferol i rieni di-hyder ddefnyddio eu Cymraeg mewn awyrgylch ddiogel er mwyn codi hyder;
  • Clybiau Babis – Cyfleoedd i rieni â babis ifanc ddod ynghyd i ganu a darllen, gwneud crefftau, sgwrsio yn Gymraeg â rhieni eraill a gwneud ffrindiau.
  • Coets a Chlebran – Sesiynau wedi eu hanelu at rieni newydd sydd am gymdeithasu yn Gymraeg, gwella eu lefelau ffitrwydd a chael cyngor a chefnogaeth gyda’u babis newydd. Arbenigwyr yn cael eu gwahodd i sesiynau (iaith; iechyd; stori a chan; ymlacio ayyb);
  • Dathlu Gwyliau amrywiol yn draddodiadol a chynhenid i Fôn (ynghyd â chenedlaethol) drwy gynnal gweithgareddau cymunedol i’r teulu gan wella a chynyddu cyfleoedd cymdeithasol (Clapio Wyau; Calan Gaeaf);
  • Selog ein adnodd hyrwyddo darllen a chanu Cymraeg yn y cartref. Caiff ei ddarlledu ar y we. Trefnir ymweliadau a digwyddiadau teuluol, ysgolion, meithrinfeydd ayyb er mwyn hyrwyddo a chefnogi darllen a chanu Cymraeg gyda’ch gilydd fel teulu (efallai bydd angen link soundcloud yma i wrando ar rai o raglenni Selog)
  • Ymwybyddiaeth Iaith Meithrinfeydd – sesiynnau ymwybyddiaeth i staff meithrinfeydd preifat wella eu dealltwriaeth am y Gymraeg, dylanwadu ar arferion a rhoi cyngor ynglŷn â manteision trosglwyddo’r Gymraeg i’r plant yn eu gofal. Hefyd, rydym ni’n rhannu gwybodaeth am ddarpariaethau ac adnoddau sydd ar gael yn Gymraeg. Yn y maes hwn hefyd, rydym ni’n hyrwyddo manteision economaidd y Gymraeg