- Dangos manteision i rieni i siarad Cymraeg gyda’u plant o’r dechrau
- Codi hyder rhieni sydd am loywi eu Cymraeg wrth siarad â’u plant
- Trosglwyddo ffeithiau cywir am werth dwyieithrwydd
- Cefnogi ymdrechion rhieni i siarad Cymraeg drwy weithgareddau cymdeithasol a rhannu gwybodaeth
- Cynorthwyo ac annog rhieni i ddewis addysg Gymraeg i’w plant
- Cefnogi ymdrechion rhieni sydd am ddysgu’r Gymraeg a’u cyfeirio at ddarparwyr
- Cydweithio â darparwyr y blynyddoedd cynnar ac addysg
- Cefnogi ymgyrchoedd y llywodraeth
Mae ap OgiOgi yn drysorfa o wybodaeth sy’n cynnig dros 400 o ddolenni defnyddiol at adnoddau lleol a chenedlaethol – yn cynnwys gwybodaeth am feichiogrwydd, iechyd, gwasanaethau, hawliau, lles, a chyfleoedd hamdden. Yn ogystal, mae’n cynnwys adran ar ddatblygiad plant ac arweiniad ar fanteision dwyieithrwydd a defnyddio’r Gymraeg o’r crud. Mae yno hefyd ddigonedd o weithgareddau hwyliog i blant a rhieni fwynhau.
I lawrlwytho, cliciwch yma – OgiOgi | Camau Bach, Small Steps
Mae mathau’r gweithgareddau sy’n cael eu trefnu yn cynnwys gwyliau gwersylla i’r teulu, teithiau pramiau a sesiynau canu a cherddoriaeth. Am y wybodaeth ddiweddaraf ar ddigwyddiadau i blant a theuluoedd porwch ar adran ‘Newyddion’, neu ar trydar a’n gweplyfr.
Selog
Addysg
Partneriaid ac Adndoddau Defnyddiol