Cymunedol

Diben cymdeithasol sydd i iaith, a chyda mwyafrif o boblogaeth Môn yn medru’r iaith, mae’r Gymraeg yn rhan annatod o wead ein cymunedau. Mae’r gallu i siarad y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg yn cyfrannu at foddhad ac ehangder profiadau unigolion ar yr ynys, yn ogystal â hyrwyddo eu cyfleoedd cyflogaeth. Fodd bynnag erys yn bryder cenedlaethol fod yna ostyngiad yn niferoedd y cymunedau sydd a 70% neu fwy o siaradwyr Cymraeg, sef y canran diogel i sicrhau cynaliadwyedd ein hiaith frodorol. Nod Menter Iaith Môn yw sicrhau fod yr ynys yn parhau yn gadarnle i’r iaith, gan gynnig profiadau hwyliog yn y Gymraeg i ddatblygu sgiliau personol a chymdeithasol unigolion a’u galluogi i fwynhau a chyfrannu at ehangder a bwrlwm eu cymunedau lleol.

Yn ogystal â dathlu traddodiadau ieithyddol ein hardal, mae’n greiddiol hefyd i rannu ein hanes a’n diwylliant gyda’r genhedlaeth nesaf a chyda newydd-ddyfodiaid ar yr ynys. Ceir ystod eang o weithgareddau cymunedol ym Môn, ac mae Menter Iaith Môn yn ganolog i’r prysurdeb, gan drefnu digwyddiadau megis Clapio Wyau, dathliadau Calan Gaeaf, Gŵyl Cefni, a chefnogaeth i Eisteddfod Genedlaethol Môn.

Cynigir cyfleoedd i ariannu dathliadau (£250-£2000), gan gynnwys dathliadau’r Gymraeg neu dreftadaeth Cymru, drwy gynllun ‘Dewch i Ddathlu Cymru’ y Loteri Genedlaethol. Os ydych yn bwriadu gwneud cais am ddathliadau Cymreig, megis Gŵyl Santes Dwynwen neu Ŵyl Dewi Sant, yna gall Menter Iaith Môn gefnogi eich cais gyda syniadau, gweithgareddau neu arbenigedd.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda chymunedau a chymdeithasau ar draws yr ynys ac yn barod, bob amser, i ystyried cyfleodd newydd i gydweithio. Felly os ydych am gefnogaeth i drosglwyddo ymwybyddiaeth iaith, neu am drefnu gweithgareddau hwyliog yn eich cymuned neu gymdeithas, da chwi ffoniwch 01248 725709 neu cysylltwch â  hanna@mentermon.com i drafod eich syniadau ymhellach.

Cefnogir gwaith Mentrau Iaith yn y gymuned gan Lywodraeth Cymru a cheir arweiniad pellach yma ar bwysigrwydd y Gymraeg.