Selog

Does dim ond un Selog ac mae’n byw ar Ynys Môn. Draig gariadus felen yw Selog, sy’n annog y plant i wrando ar straeon yn y Gymraeg ac yn eu harwain i bori drwy lyfrau ac yna eu darllen. Ar gais Selog ar MônFM, clywir lleisiau artistiaid amrywiol yn adrodd 52 stori ddifyr gan awduron adnabyddus. Yn ogystal â rhoi ysbaid i rieni prysur yn y car neu yn y tŷ, mae’r recordiadau yn adnodd gwych i rieni di-Gymraeg a dysgwyr sydd am sicrhau cyflenwad digonol o straeon yn y Gymraeg i’w plant.

Un cymdeithasol a phoblogaidd iawn yw Selog, ac wrth ymweld â grwpiau rhieni a phlant i gynnig sesiwn stori a chân, gwêl rhieni’r cyffro a’r pleser a gaiff eu plant wrth wrando ar straeon yn y Gymraeg.

Yn anffodus, lle unig iawn yw ogof i ddraig sy’n awchu am gwmni, felly rhowch wybod os oes cyfle i wahodd Selog i’ch grŵp, llyfrgell neu feithrinfa er mwyn cael hwyl wrth fwynhau straeon a llyfrau. Ffoniwch 01248 725700 neu cysylltwch â aaronm@mentermon.com i drafod ymhellach.