Treftadaeth Menter Iaith Môn

Cronfa Adfywio Cymunedol y DU

Mae’r iaith Gymraeg wedi cael ei chyflwyno i fusnesau, grwpiau a theuluoedd newydd ar draws Ynys Môn o ganlyniad i Gronfa Adfywio Cymunedol y DU. Pwrpas y gronfa oedd treialu ffyrdd newydd o hyrwyddo’r Gymraeg trwy gefnogi defnydd cymunedol a gwella sgiliau iaith. Menter Iaith Môn oedd yn gweinyddu’r gyllideb ar ran Cyngor Sir Ynys Môn.

Meinciau Môn

Gydag enwau lleoedd Cymraeg mewn perygl o gael eu colli/newid neu eu hanghofio, nod Meinciau Môn ydi cadw enwau lleoedd Cymraeg tra hefyd yn dathlu’r iaith, diwylliant, a threftadaeth.

Bydd y prosiect yn comisiynu artistiaid lleol i ddylunio ac addurno meinciau cyhoeddus, gan ymgorffori’r enwau lleoedd Cymraeg gwreiddiol yn y dyluniad. Bydd yr artistiaid yn cynnal gweithdai gyda phlant a phobl ifanc lleol yr ardal i a) sicrhau bod lleisiau ifanc yn cael eu cynnwys yn y prosiect ac annog ymdeimlad o berchnogaeth a b) codi ymwybyddiaeth ymhlith y to iau o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg a threftadaeth.

Bydd tîm y Fenter hefyd yn cynnal gweithdai gyda myfyrwyr mewn ysgolion lleol i gyfoethogi erthyglau ar-lein yn trafod cefndir a chyd-destun yr enwau hyn a’u pwysigrwydd. Bydd codau QR yn cael eu creu a’u gosod ar y meinciau, gan ddarparu dolen i safleoedd Wicipedia a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth iddynt.

Porth Swtan – https://cy.wikipedia.org/wiki/Porth_Swtan

Caergybi – https://cy.wikipedia.org/wiki/Caergybi

Nant y Pandy – https://cy.wikipedia.org/wiki/Nant_y_Pandy

Rhosneigr – https://cy.wikipedia.org/wiki/Rhosneigr

Traeth Coch – https://cy.wikipedia.org/wiki/Traeth_Coch

Porthaethwy – https://cy.wikipedia.org/wiki/Porthaethwy