Y Gymraeg

Mae’r proffil iaith a ddiweddarwyd gan y Fenter Iaith yn rhoi darlun cynhwysfawr i ni o sefyllfa’r Gymraeg ar Ynys Môn, gan gynnwys faint o bobl sy’n siarad yr iaith a faint o ddefnydd sy’n cael ei wneud o’r iaith ar yr Ynys. I ymweld â’r proffil, cliciwch yma – Fersiwn Cymraeg – Cyfrifiad 2011: Y Canlyniadau Cyntaf am yr Iaith Gymraeg yn Ynys Môn (mentermon.com)

Mae bron i 60% o drigolion Ynys Môn yn siarad Cymraeg. Dyma un o gadarnleoedd y Gymraeg yng Nghymru.

Ond beth yw’r fantais o fedru siarad Cymraeg?

  • Mae dwyieithrwydd yn gwella cyfleoedd i gael gwaith, ac yn agor mwy o ddrysau
  • Mae pobl yn gwerthfawrogi cael cynnig gwasanaeth yn eu mamiaith – ac yn medru trafod materion yn haws yn eu iaith gyntaf
  • Mae ymchwil yn dangos fod dwyieithrwydd yn arafu dementia a symptomau eraill Alzheimer
  • Mae pobl dwyieithog yng Nghymru yn ennill rhwng 8%-10% yn fwy o gyflog bob blwyddyn o’i gymharu efo pobl sy’n siarad un iaith yn unig.

Ond fydd dysgu a siarad dwy iaith yn fy nal fi neu fy mhlentyn yn ôl?

  • Yn aml, mae plant mewn ysgolion dwyieithog ar y blaen wrth ddarllen a chyfri. Mae pobl unieithog yn lleiafrif yn y byd. Mae 2/3 o boblogaeth y byd yn siarad mwy nag un iaith.
  • Tydi dysgu Cymraeg ddim yn effeithio ar ddysgu Saesneg. Mae ymchwil yn dangos ei fod yn gwella cyfathrebu cyffredinol.
  • Nid oes angen gwneud ymdrech ychwanegol i siarad Saesneg efo plentyn Cymraeg. Bydd yn debygol iawn o ddysgu Saesneg yn naturiol.

Mae dy Gymraeg di’n ddigon da! Dim ots sut ti’n siarad, mae dy eiriadu di werth y byd i blentyn!

Rydym ni am godi hyder trigolion i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Drwy ein gwaith cymunedol rydym ni eisiau gweld bwrlwm cymdeithasol yn ystod digwyddiadau’r fenter gyda’r cymunedau hynny yn arddel y Gymraeg fel rhan o’i gwead ac isadleiledd. Rhan annatod o’r gwaith hwn hefyd yw sicrhau ffynhonellau ariannol er mwyn rhoi ar waith fesurau lliniaru ar impact ieithyddol datblygiadau mawr ar yr Ynys.

Yn ôl ffigyrau cyfrifiad 2011 mae nifer y siaradwyr Cymraeg Môn yn 38,568 neu 57%. Dyma un o gadarnleoedd y Gymraeg yng Nghymru ac felly o strategol bwys drwyddi draw er mwyn sicrhau fod y Gymraeg yn hyfyw.

Mae 27 o wardiau ble mae dros hanner y boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg, ac mae tair ward yn Llangefni gyda dros 80% o’r boblogaeth yn medru siarad Cymraeg. Dyma nifer o ardaloedd sydd o bwys strategol er mwyn cynnal Môn yn gadarnle, a rhaid parhau i fuddsoddi ynddi.

Mae gwaith cymunedol y fenter hefyd yn cynnwys dylanwadu ar ddefnydd iaith darparwyr gwasanaethau lleol, grwpiau a mudiadau. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys hyfforddiant, rhannu gwybodaeth ac adnoddau a chydweithio i ddatblygu a chreu newid. Mae gan y gweithle rôl allweddol i’w chwarae o ran ennyn hyder ymhlith siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith mewn agweddau eraill o’u bywydau. Credwn ei bod yn bwysig fod statws yr iaith yn y gweithle yn bwysig o safbwynt pwysleisio gwerth addysg cyfrwng Cymraeg, ac i’r perwyl hwnnw rydym ni’n cynnal sesiynau ymwybyddiaeth iaith gyda phobl ifanc ac yn cydweithio â phartneriaid i gynnal ffeiriau gyrfaol gyda chyflogwyr sy’n rhoi gwerth ar y Gymraeg.

Dyma ddolen i’r Pecyn Croeso!

https://indd.adobe.com/view/30d03eb9-b9bf-4641-8c5f-f19bf8ebc31b?fbclid=IwAR3XOBbiaFOTRp79qEpgurvfia0jYGHpooXva3URbtYpPCz6x8FfY07DPg0