Ein Hanes Ni
Mae prosiect Ein Hanes Ni yn brosiect ar y cyd rhwng Menter Iaith Môn, Cyngor Sir Ynys Môn, TeliMôn ac S4C. Ei fwriad yw annog plant y fro i ymchwilio i sut mae’r ardal wedi newid dros y blynyddoedd; yr adeiladau, y lonydd, y bobl, a’r iaith. Dyma roi llais a gwerth i atgofion melys aelodau hŷn y gymuned, ac addysgu’r genhedlaeth nesaf am hanes lleol yr un pryd.
Un o amcanion y prosiect fydd creu cyfle i blant i ofyn cwestiynau i drigolion hŷn pentrefi ledled Ynys Môn i ddarganfod hanes eu hardaloedd lleol, ac ystyried sut mae pethau wedi newid dros y blynyddoedd. Bydd y prosiect yn annog plant a phobl i ymweld â gwahanol leoedd yn y pentrefi, trafod yr hanes, a chwilio am wybodaeth goll. Bydd y cyfan yn cael ei ddogfennu, ac yn cael ei roi at ei gilydd ar ffurf ffilm fer, ac yna caiff ei ddangos i drigolion yr ardal drwy gyflwyniadau arbennig ar ddiwedd y prosiect, fel fod y gymuned gyfan yn buddio.
Bydd y ffilm fer yn cael ei rannu gyda’r cyhoedd yn ehangach – cyfle i unrhyw un yn y byd ddysgu mwy am gymuned glos Gymreig ym Môn.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o’r gwaith Cyfeillgarwch, Lles a Gwirfoddoli ehangach, gan ganolbwyntio ar les preswylwyr a’r 5 ffordd at les.
Gobaith Menter Iaith Môn yw y bydd y bobl ifanc yn defnyddio eu sgiliau newydd, ac yn magu hyder i fynd ati i gyfrannu at weithgareddau lleol a chymunedol eraill. Bydd y prosiect yn parhau i’w cefnogi i fod yn arweinyddion yn eu hardaloedd lleol, a hyn drwy eu hannog i fynd allan ac ymwneud â materion sydd o ddiddordeb ac o bwys iddynt.
Pen – Pals
Mae prosiect Pen – Pals yn creu cyfeillgarwch newydd rhwng plant a phobl hŷn yr Ynys drwy sgwennu llythyrau i’w gilydd. Mae’r cynllun yn cynnig cyfleon ysgrifennu Cymraeg allgyrsiol i blant, yn eu haddysgu am y grefft o ysgrifennu llythyr, ac yn meithrin perthynas drwy eiriau. Yn ogystal, mae’r cynllun yn cynnig ffordd arbennig o daclo unigrwydd ymysg y rhai hŷn sy’n cymryd rhan, ac yn rhoi cyfle iddynt hwythau ymarfer eu ysgrifennu Cymraeg, ac yn cynnig cysur newydd drwy gyfeillgarwch newydd.
Un o brif amcanion Menter Iaith Môn drwy redeg y cynllun yma yw i gynnig cyfleoedd newydd a chyfleoedd cyson i blant a phobl ifanc i ddefnyddio’u Cymraeg. Mae yma amcan hefyd i weld y genhedlaeth hŷn yn trosglwyddo eu hanes, eu hiaith a’u straeon difyr i’r genhedlaeth iau mewn modd hwyliog, cyfeillgar a naturiol.
Erbyn hyn felly, mae’r Fenter Iaith yn falch o gyhoeddi eu bod yn croesawu unrhyw un (plentyn neu oedolyn) i fod yn rhan o’r cynllun yma wrth symud ymlaen. Os oes gennych ddiddordeb, byddem yn gwneud ein gorau i ddarganfod eich Pen Pal chi cyn gynted â phosib.