Mae Gŵyl Cefni yn Ŵyl Gymraeg i’r teulu sy’n digwydd yng nghanol tref Llangefni. O’i chynnal yng nghanol y dref rydym yn sicrhau fod pawb yn gallu mynychu’r ŵyl i flasu cyfoeth diwylliant Cymru ac i fwynhau amrywiaeth o ddarpariaethau. Mae hi’n wythnos o ddathliadau gyda nosweithiau o adloniant yn arwain at uchafbwynt yr ŵyl sef y dydd Sadwrn ble mae cannoedd o bobl ledled yr Ynys yn ymgynnull i wylio sioe adloniant i’r teulu a cherddoriaeth ac adloniant byw drwy weddill y prynhawn.
Rydym ni’n rhoi pwyslais ar sicrhau ei bod yn ŵyl i’r teulu i gyd, gyda rhaglen addas i bob oed. Mae partneriaid hefyd yn allweddol ar gyfer llwyddiant yr ŵyl, gan gynnwys busnesau a grwpiau yn nhref Llangefni. Rydym ni am ddangos fod gwerth economaidd hefyd i’r Gymraeg wrth i funsesau fanteisio ar gyfleoedd i hyrwyddo a defnyddio’r Gymraeg a Chymreictod i hyrwyddo. Mae’r ŵyl hefyd yn sicrhau fod bandiau ifanc, lleol yn cael cyfle i berfformio a manteisio ar ennill profiadau o flaen cynulleidfa fyw.
Mae’r ŵyl yn llwyddo i ddenu cymeriadau blaengar rhaglenni plant bob blwyddyn yn ogystal â chyflwynwyr Cyw ac S4C. Dros y blynyddoedd mae enwogion perfformwyr Cymru wedi perfformio ar lwyfan Gŵyl Cefni, gan gynnwys H a’r Band, Bryn Fôn, Meic Stevens, Kizzy Crawford, a bandiau poblogaidd fel Sŵnami, Candelas a Band Pres Llareggub. Ceir hefyd weithdai clocsio, theatr a chyfansoddi yn rhan o ddathliadau’r wyl gyda nosweithiau comedi, lawnsio llyfrau a gemau chwaraeon yn rhan o weithgareddau’r wythnos.
Mae’r ŵyl hefyd yn gweithio’n agos ag ysgolion a grwpiau ieuenctid yr ardal i ddarparu gweithdai celfyddydol yn arwain at yr ŵyl. O ganlyniad i’r gweithdai hyn, caiff gwaith a chyfansoddiadau pobl ifanc yr ardal eu perfformio a’u harddangos yn ystod yr Wyl ar y brif lwyfan. Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys gweithdy ysgrifennu cân gyda’r Bandana, sesiynau blasu caneuon traddodiadol ar y delyn gyda Gwenan Gibbard, gweithdai efo Mr Phormula a Gwyneth Glyn a chreu darn o gelf wreiddiol gydag Oriel Odl. Mae hi’n wythnos brysur!
Ymunwch gyda ni fis Mehefin nesa!