Yr Eisteddfod yw ein ffenest siop genedlaethol i gerddoriaeth, dawns, celfyddydau gweledol, llenyddiaeth, a pherfformiadau gwreiddiol Cymraeg; ond y Croeso fydd ffenest siop croeso Ynys Môn. Mae wythnos yr eisteddfod yn uchafbwynt i ddwy flynedd o waith paratoi cymunedol, gan ddod a phobl ynghyd i gydweithio a hwyluso llwyddiant yr Ŵyl. Yn gynhwysol a chroesawgar, mae’r Eisteddfod yn bair o ynni creadigol a chymdeithasol i siaradwyr Cymraeg, ond hefyd yn gyrchfan pwysig i ddysgwyr ac yn atyniad diddorol i’r di-Gymraeg a all fwynhau’r wledd ddiwylliannol drwy offer cyfieithu yn y pafiliwn.
Ynghanol y paratoadau, mae Menter Iaith Môn yn:
- Hyrwyddo’r ystod o ddigwyddiadau sy’n arwain at, a fydd yn cael eu cynnal yn ystod, yr Eisteddfod
- Cefnogi pwyllgorau ardal gyda gweithgareddau codi arian
- Trafod syniadau cymunedau i wneud yn fawr o’r cyfle yma i groesawu gŵyl genedlaethol fwyaf Cymru i Fôn
- Sicrhau fod trigolion sy’n newydd i’r traddodiad eisteddfodol yn dod i flasu ehangder y profiadau posib wrth baratoi am, a mynychu, yr Eisteddfod
- Galluogi atyniadau lleol i wneud yn fawr o’r cyfle yma i ddangos ein hynys hardd ar ei gorau i’r miloedd o ymwelwyr Cymraeg a ddaw
- Cefnogi busnesau sydd am elwa o gyfleoedd masnachol yr Eisteddfod drwy wella ar eu darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg
- Cynghori unigolion â llety i’w gynnig, ar sut i gynnig y croeso Cymraeg gorau
- Sicrhau gwaddol i’r iaith Gymraeg y tu hwnt i gyfnod yr Eisteddfod, drwy barhau i gydweithio a phwyllgorau lleol a phartneriaid eraill