Addysg

Gelwir Ynys Môn yn wlad y medra, ac nid ymffrost yw hyn, gan fod mwyafrif disgyblion yr ynys yn gadael yr ysgol gynradd yn 11 oed yn rhugl yn Gymraeg a’r Saesneg. Dengys cyfrifiad 2011 fod 82% o bobl ifanc Môn 10-14 mlwydd oed yn medru’r Gymraeg, a disgwylir gweld cynnydd pellach yng nghanran y siaradwyr ifanc erbyn cyfrifiad 2021. Yn ogystal, i gynnal safonau iaith, mae’r ysgolion yn anelu i drosglwyddo ymwybyddiaeth o ddiwylliant a threftadaeth Gymreig drwy ymdrechu i gyrraedd marc ansawdd gwobr aur y Siarter Iaith.

Os ydych yn rhiant newydd i’r Gymraeg, mae’n ddealladwy y byddwch am gael mwy o wybodaeth am ddwyieithrwydd mewn iaith nad ydych yn gyfarwydd â hi. Rydym yn cynnal sesiynau ymwybyddiaeth iaith yn cynnwys dangos dvd gyda chasgliadau arbenigwyr addysg, felly croeso i chi gysylltu â ni os am drefnu sesiwn yn eich ardal, ysgol neu ymysg grŵp o ffrindiau. O gael gweld unrhyw ofidiau neu gwestiynau cyffredin yn cael  eu hateb gan academydd rhyngwladol blaenllaw ar addysg ddwyieithog, yr Athro Colin Baker, mi fydd yn llawer haws deall pam fod arbenigwyr yn argymell manteision dwyieithrwydd i rieni plant ifanc.

Yn ogystal â darpariaeth ddwyieithog ein hysgolion, amlyga’r dystiolaeth fanteision dysgu’r Gymraeg o’r crud a thrwy’r cyfnod cyn-ysgol. Mae defnyddio’r Gymraeg drwy straeon, canu a chwarae, yn ogystal ag argaeledd y Saesneg yn y cyfryngau torfol o’n cwmpas, yn rhoi dwyieithrwydd naturiol i blant – gallu sy’n datblygu’r ymennydd mewn modd na all fod yn unieithog ei wneud. Ceir cefnogaeth ac arweiniad pellach i deuluoedd plant cyn-ysgol gan Mudiad Ysgolion Meithrin.

I ategu llwyddiant ein hysgolion, y tu allan i furiau’r ysgol, mae Menter Iaith Môn yn cynnal gweithgareddau teuluol a chymunedol er mwyn sicrhau cyfleoedd i arddel ac i fwynhau’r Gymraeg yn gymdeithasol.

Yma ceir y lincs at yr wybodaeth berthnasol i rieni sy’n dechrau’r daith gyffrous o addysg ddwyieithog i’w plentyn.